Lleoliad: Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5
Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom Dyddiad: Dydd Iau, 9 Chwefror 2023
Amser:
10.00 -
12.25
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13207
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS Sam Rowlands AS |
Tystion: |
Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd David Lloyd-Thomas, Llywodraeth Cymru Peter Fox AS, Yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil Tyler Walsh, Staff Cymorth Aelod o’r Senedd - Peter Fox AS Elfyn Henderson, Y Gwasanaeth Ymchwil Martin Jennings, Y Gwasanaeth Ymchwil, |
Staff y Pwyllgor: |
Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Christian Tipples (Ymchwilydd) |
Cofrestru (09.30-09.45)
Rhag-gyfarfod preifat – anffurfiol (09.45-10.00)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Dirprwyodd Sam Rowlands AS ar ran Peter Fox AS.
2 Papur(au) i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Rhagor o wybodaeth yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Cyllid ar 14 Rhagfyr - 17 Ionawr 2023
2.2 PTN 2 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol - Newidiadau Arfaethedig i Brotocol y Gyllideb - 17 Ionawr 2023
2.3 PTN 3 - Llythyr gan y Prif Weithredwr a’r Clerc at y Pwyllgor: Taliad costau byw i staff y Comisiwn - 19 Ionawr 2023
2.4 PTN 4 - Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol: Gweinyddu cyfraddau treth incwm Cymru 2021-22 - 19 Ionawr 2023
2.5 PTN 5 - Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) - 27 Ionawr 2023
2.6 PTN 6 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Pwyllgor Sefydlog Cyllid Rhyngweinidogol (F:ISC) - 30 Ionawr 2023
2.7 PTN 7 – Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) - 18 Ionawr 2023
3 Goblygiadau ariannol y Bil Bwyd (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 1
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar oblygiadau ariannol y Bil Bwyd (Cymru) gan Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, a chan David Lloyd-Thomas, Pennaeth yr Uned Polisi a Strategaeth Bwyd, Llywodraeth Cymru.
Egwyl (10.30-11.15)
4 Goblygiadau ariannol y Bil Bwyd (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 2
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar oblygiadau ariannol y Bil Bwyd (Cymru) gan Peter Fox AS, yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil; Tyler Walsh, Staff Cymorth Aelod o’r Senedd; Martin Jennings, y Gwasanaeth Ymchwil; ac Elfyn Henderson, y Gwasanaeth Ymchwil.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Bil Bwyd (Cymru): Trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Cynllun Ffioedd Archwilio Cymru 2023-24
7.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor Gynllun Ffioedd Archwilio Cymru cywiredig ar gyfer 2023-24 o dan Reolau Sefydlog 18.10(x) yn unol ag adran 24(7) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.